SL(5)144 - Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017.

Cefndir a diben

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 gan drosi gofynion ychwanegol Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat, fel y’u diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2015/1787.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl ac yn nodi’r gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyflenwadau dŵr preifat (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2) a fwriedir i’w yfed gan bobl.

 

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat.

 

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau dŵr preifat ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a nodir.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.     Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Deddf 1972 yn rhoi disgresiwn ynghylch pa un ai’r weithdrefn negyddol ynteu’r weithdrefn gadarnhaol a ddylai fod yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Dewiswyd y weithdrefn negyddol, sy’n ymddangos yn briodol o ystyried nad yw’r Rheoliadau hyn yn diwygio unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf na Mesur y Cynulliad. [21.3(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

2.     Gwneir y Rheoliadau hyn i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb y Comisiwn 2015/1787 ei throsi. Y dyddiad cau ar gyfer trosi’r Gyfarwyddeb hon oedd 27 Hydref 2017. Gall gweithredu cyfarwyddeb yn hwyr arwain at achos am dorri cyfraith Ewropeaidd. Y Comisiwn Ewropeaidd sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyfraith y Gymuned yn cael ei chymhwyso’n gywir. Mae gan y Comisiwn yr opsiwn o gychwyn achos am dorri rheolau o dan Erthygl 258 (Erthygl 226 TEC gynt) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd pryd bynnag y bydd o’r farn bod Aelod-wladwriaeth wedi torri cyfraith y Gymuned. O ystyried cyn lleied yr oedi a gafwyd, mae hyn yn annhebygol iawn. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhesymau dros fod yn hwyr yn gweithredu Cyfarwyddeb 2015/1787. [21.3 (iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol.]

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Seiliwyd y dadansoddiad a ganlyn ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (“y Bil”) fel y’i cyflwynwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o “ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE” o dan gymal 2 o’r Bil, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru o’r diwrnod ymadael ymlaen. Mae’r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu’r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy’n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Ymateb y Llywodraeth

Mae ymateb gan y llywodraeth yn ofynnol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Tachwedd 2017